Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

                                                                                                       

 

 

 

Mawrth 2014

 

 

Annwyl

 

 

Bil Drafft Cymru

 

Cyfeiriaf at y Bil Drafft Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 18 Rhagfyr 2013. 

Rydym wedi ymddiddori’n fawr yn y Bil hwn ar sail ei arwyddocâd cyfansoddiadol. 

Yn benodol, rydym wedi gweld yr ohebiaeth rhyngoch chi a'r Llywydd am y Bil drafft.  Rydym am gofnodi’r ffaith ein bod yn cymeradwyo'r pwyntiau a godwyd ganddi.

Mae rhai pwyntiau ychwanegol yr ydym am eu gwneud yn seiliedig ar ein hystyriaeth o'r Bil drafft a gwaith ein pwyllgor dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. 

Gweithdrefnau cyllidebol

Rydym yn llwyr gefnogi argymhelliad Comisiwn Silk y dylid rhoi rheolaeth i'r Cynulliad dros ei weithdrefnau cyllidebol (argymhelliad 32 yn Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru), yn unol â'r sefyllfa yn yr Alban. Yn ein tyb ni, byddai hyn yn ddull pragmataidd a synhwyrol, gan y byddai'n caniatáu i'r Cynulliad fanteisio ar y pwerau ariannol newydd sy'n cael eu darparu yn y Bil drafft mewn ffordd gydlynol ac effeithlon.

Cymal 21: Gwaith Comisiwn y Gyfraith hyd yma mewn perthynas â Chymru

Yn 2012, cynaliasom ymchwiliad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru.  Roedd y rhan fwyaf o'r tystion yn gefnogol i'r syniad o gael corff i adolygu cyfraith Cymru ac y dylai ei aelodaeth fod yn hyblyg ac yn manteisio ar arbenigrwydd yn ysgolion y gyfraith ac yn y proffesiwn. Gwnaethom argymell:

y dylid sefydlu corff i adolygu a chynorthwyo â chydgrynhoi cyfraith Cymru. Gallai corff o'r fath naill ai fod yn rhan o Gomisiwn y Gyfraith presennol ar gyfer Cymru a Lloegr neu'n gorff cwbl newydd.

Nodwn fod cymal 21 o'r Bil drafft yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 er mwyn gosod dyletswydd newydd ar Gomisiwn y Gyfraith i ddarparu cyngor a gwybodaeth i Weinidogion Cymru yn uniongyrchol. Mae hyn yn ei gwneud yn glir y bydd gan Weinidogion Cymru y gallu i gyfeirio materion o ran diwygio'r gyfraith at Gomisiwn y Gyfraith.  Fodd bynnag, nid yw'r Bil drafft yn gwneud Gweinidogion Cymru yn gyfartal â Gweinidogion Llywodraeth y DU o ran Comisiwn y Gyfraith na Gweinidogion yr Alban o ran Comisiwn Cyfraith yr Alban.  Er enghraifft, ni fydd yn ddyletswydd ar Gomisiwn y Gyfraith i ddarparu i Weinidogion Cymru raglen gynhwysfawr o gydgrynhoi a diwygio'r gyfraith statud mewn meysydd datganoledig.

Rydym yn credu y byddai gosod dyletswydd ar Gomisiwn y Gyfraith yn sicrhau bod cyfansoddiad cyfreithiol Cymru yn datblygu mewn ffordd glir, gydlynol a rhesymegol. Byddai dyletswydd o'r fath yn anfon neges glir ynghylch pwysigrwydd diwygio'r gyfraith yng Nghymru, a byddai'n sicrhau y gellid cynllunio'r gwaith hwn a'i wneud mewn ffordd amserol, ac yn unol â'r corff o gyfreithiau Cymreig sy'n datblygu.

Yn ein tyb ni, gellid cyflawni'r newid angenrheidiol drwy ddiwygio adran 6 o Ddeddf 1965 i ymestyn y diffiniad ar gyfer 'y Gweinidog' fel y byddai'n cynnwys Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chomisiwn y Gyfraith. Byddai hyn yn debyg i'r ffordd y mae Gweinidogion yr Alban yn cael eu cynnwys mewn perthynas â Chomisiwn Cyfraith yr Alban. Mae'r trefniant hwn yn caniatáu i Weinidogion yr Alban ofyn am raglenni cynhwysfawr o gydgrynhoi a diwygio’r gyfraith statudol, a chymeradwyo argymhellion a wneir gan Gomisiwn Cyfraith yr Alban.  

Yng ngoleuni ein sylwadau, rydym felly yn cefnogi'n gryf argymhellion 32 a 33 yn adroddiad diweddaraf Comisiwn Silk, sef Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru

Cymal 24: Pŵer i wneud darpariaeth atodol, ôl-ddilynol, ac ati

Mae cymal 24 yn destun pryder arbennig inni. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'n caniatáu i Drysorlys Ei Mawrhydi wneud diwygiadau canlyniadol sy'n deillio o Ran 2 o'r Bil drafft a allai ddiwygio Mesur Cynulliad neu Ddeddf Cynulliad. Mae'n ymddangos yn briodol inni y dylai unrhyw newidiadau y mae Senedd y DU yn eu gwneud i Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, o unrhyw fath, gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad. Mae hon yn egwyddor gyfansoddiadol arwyddocaol.

Yn ein tyb ni, mae posibiliad y byddai peidio â gorfod cael caniatâd y Cynulliad yn tanseilio'r setliad datganoledig; byddai'n gwbl amhriodol i ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad gael ei diwygio gan y Trysorlys gyda chaniatâd Senedd y DU, o bosibl ar ôl trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Byddai peidio â chynnwys y ddeddfwrfa a wnaeth y ddeddfwriaeth wreiddiol yn gyfansoddiadol anhygoel. 

Trefniadau etholiadol

Mae Bil Drafft Cymru yn cynnwys nifer o gynigion mewn perthynas â threfniadau etholiadol. Credwn yn gryf ei bod yn gwbl gyfiawn i'r Cynulliad gael cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer ei drefniadau etholiadol ei hun. Rydym o'r farn felly y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru gael yr un pwerau o leiaf â'r rhai a roddwyd i Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban yn Neddf yr Alban 2012